Text by Dylan Huw

Farah Allibhai’s work rehearses an ethic of stillness, slowness, quiet: not in retreat from the phenomenal world but as a practice of moving intentionally within it. To develop a praxis rooted in the anti-spectacular is to work in resistance of that world’s demands of constant obedience. Is to imagine and create and live in anti-materialist, anti-war, anti-fascist ways. To work against the reduction of complexity into commodifiable or reducible formats.

In the silence Farah Allibhai builds, every action has gravitas and intentionality, and every image contains within it a glimmer of potential for more ethically sustainable ways of relating to each other, to our surroundings, and perhaps above all to the self. An ethics of the anti-spectacular prompts consideration anew of what it might (could, should) mean to be a sensing person, here, now. Of how to confront a question asked by Farah, repeatedly, in conversation: How do we not become oppressors not only of others, but of ourselves? In an atmosphere thick with exhaustion, heavy with demands of uniformity and compliance: what’s an artist to do?

What’s a person to do? What’s a body to do? What’s a soul to do?

A consistent emphasis across her peripatetic practice is on putting experiential form to the long-tail traces left by personal encounters – on the body, on the psyche, on their architectural and geographical hosts, and of spiritual, political and material kinds. Her work interrogates that which we carry most intimately, so as to illuminate the stuff of life: the exploitative structures which scaffold the present, which so often constrict the scope of life lived with meaning and integrity. These constructs that we take as inevitable, until we decide not to. Without condescending to didactic logics of naming or “educating”, her work models the possibilities of circumventing the degrading mechanisms that condition our everyday ways of being, informed by her perspective as a brown woman operating in predominantly white spaces. But it refuses to be trapped by negation, by critique for its own sake. The work is outward-looking, inquiring of its audiences, and inquiring of the artist who makes it. Farah Allibhai asks, of herself and of us, who get to encounter her work: What is it that we live for?

The question is posed in such a way as to provide tools for rehearsing – in our actions, in our interactions, in the ways we move among the world in all its sickness and also its beauty – ways of sustaining that aren’t in particular deference to patriarchy, materialism, traditional notions of “value,” or any other fetishes of white-Western power;

how an artist might tap into her own vulnerability, in such a way as to invite other people to tap into theirs; 

how we might sit with silence. 

Farah’s work provokes us to investigate such eternal queries differently: slowly, softly, with an open curiosity and lightness of being. Her early practice was compelled by a drive to translate her own experiences of pain and solace-seeking into material form, and to say that the subsequent work has become both more introspective and more relational is not the paradox it might initially seem. Personal and ancestral practices of ritual, prayer and meditation are frequently woven into her interventions and installations, modest gestures elevated to the status of ceremony; the most tenderly everyday becomes an encounter which demands the closest kind of attention. But even as the themes at hand are heavy – the possibilities of spirituality in an unspiritual time; personal emancipation in the face of societal claustrophobias; how deep grief and profound refuge can have near-identical roots – the tonality of the work is characterised by closeness and humility. Its vulnerability is one that wholeheartedly refutes hopelessness, which contains a capacity to combat the deep sense of alienation which conditions our environment. The “stuff of life” is just out of frame, just off-stage. She is not an artist whose work will tell you what to think or do. But she will build a silence into which we might read the ordinary anew.


Yng ngwaith Farah Allibhai, mae llonyddwch, arafwch a distawrwydd yn ffurfiau ac hefyd yn egwyddorion. Nid strategaethau o gilio rhag y byd, ond ffyrdd o osod bwriad i symud yn bwrpasol trwyddo. Mae datblygu pracsis wedi’i wreiddio yn y gwrth-spectacular yn golygu gweithio mewn gwrthwynebiad i ofynion llethol y byd hwnnw i ni gydymffurfio. Mae’n golygu dychmygu a chreu a byw mewn ffyrdd gwrth-faterol, gwrth-ryfel, gwrth-ffasgaidd. Yn golygu hefyd gweithio’n erbyn y moddau caiff cymhlethdodau o bob math eu cyfieithu, yn awtomatig bron, mewn i fformats hawdd eu gwerthu a’u prynu. Yn y tawelwch mae Farah Allibhai yn ei adeiladu, mae gan bob gweithred gravitas a bwriadoldeb, ac ym mhob delwedd mae egin botensial am ffyrdd mwy moesegol gynaliadwy o ymwneud â’n gilydd, â’n amgylchfydoedd, ac yn fwy na dim â’n hunain. Dyma ethic o’r gwrth-spectacular, sydd yn gwahodd ystyriaeth o’r hyn gallai olygu i fod yn berson sy’n teimlo a synhwyro, fan hyn, nawr. Ystyriaeth o gwestiwn a ofynnir gan Farah, sawl gwaith, wrth i ni sgwrsio: Sut mae peidio dod yn ormeswr – o rai eraill, ac o’n hunain? Mewn amgylchedd mor drwm â blinder, mor drwchus ei orchmynion am ufudd-dod ac unffurfiaeth: Beth sydd ‘na i artist wneud?

Beth sydd ‘na i berson wneud? I gorff wneud? I enaid?

Un pwyslais cyson trwy ei phractis peripatetig ydy i roi ffurf ar yr olion hir-dymor a adawyd gan brofiadau personol – ar y corff a’r meddwl, ar y pensaernïaeth a’r tirweddau sy’n eu cynnal, ac o fathau ysbrydol, gwleidyddol a materol. Mae ei gwaith yn ymholi’n ddwfn i’r pethau mwyaf agos-atom ry’n ni’n cario gyda ni bob dydd, fel ffordd o ddod â stwff bywyd i’r golau: y strwythurau rheiny sy’n sgaffaldio’r presennol, a sydd mor aml yn cyfyngu’r sgôp am allu byw gydag ystyr ac uniondeb. Y lluniadau ry’n ni’n cymryd yn ganiataol, nes ein bod ni’n penderfynu peidio. Heb fyth ostwng i ymagwedd ddidactig o “addysgu” neu bregethu, mae ei gwaith yn modelu posibiliadau o fyw fel-arall i’r mecanweithiau diraddiol sy'n cyflyru ein ffyrdd beunyddiol o gyd-fod, dan ddylanwad penodol ei safbwynt fel dynes frown sy’n gweithredu ran amlaf mewn gofodau gwyn. Ond mae’n bractis sy’n gwrthod cael ei gaethiwo gan negyddiaeth, na gan feirniadaeth un-ffordd. Mae ei gwaith yn edrych am allan, yn ymholgar o’i gynulleidfa, ac yn ymholgar o’r artist sy’n ei greu. Mae Farah Allibhai yn gofyn, i’w hunan ac i ni, sy’n cael bod yng nghwmni ei gwaith: Beth ydyn ni’n byw drosto?

Gofynnir y cwestiwn mewn ffordd sy’n cynnig rhai offerynnau i ymarfer – yn ein gweithredau, ein cyfarfyddiadau, ein ffyrdd o symud ymysg y byd yn ei holl salwch a harddwch – ffyrdd o gynnal ein hunain a’n gilydd nad sy’n cael eu siapio gan batriarchaeth, materoldeb, dealltwriaeth draddodiadol o “werth,” na ddim un ffetish arall o bwer gwyn-orllewinol;

sut mae modd i artist dapio mewn i’w bregusrwydd ei hunan, er mwyn gwahodd pobl eraill i dapio mewn i’w rhai nhw;

sut mae eistedd gyda thawelwch.

Mae gwaith Farah yn ein procio i dreiddio’n wahanol i’r fath gwestiynau oesol: yn araf, yn feddal, ag ysgafnder a chwilfrydedd agored. Gyrrwyd ei gwaith cynnar gan alwad i gyfieithu mewn i ffurf materol ei phrofiadau o boen a mynnu lloches. Nid paradocs o gwbwl yw honni bod ei gwaith ers hynny wedi dod yn fwy mewnblyg ac yn ehangach ei ragolwg ar yr un pryd. Yn gweu trwy ei ymyrriadau a’i gosodweithiau mae arferion personol a llinachol o ddefod, gweddi a myfyrio, ystumiau syml wedi’i chwyddu fyny i statws y seremoniol. Daw’r hyn ry’n ni’n ei ystyried fel y gweithredau mwyaf bob-dydd yn fomentau i dalu’r math agosaf o sylw atynt. Ond hyd yn oed pan mae’r themâu’n drwm – capasiti’r ysbrydol mewn oes anysbrydol; bodlonrwydd personol yn wyneb clawstroffobia cymdeithasol; sut y gall gwreiddiau galar dwfn a rhyddhad edrych yn debyg iawn i’w gilydd – yr hyn sy’n nodweddu tôn ei gwaith yn fwy na dim yw ymdeimlad o agosatrwydd a symlrwydd. Mae’r bregusrwydd mae Farah’n ymarfer gyda’i gwaith yn un sy’n ymwrthod ag anobaith. Mae’n fregusrwydd sy’n cynnwys ynddo rhyw gapasiti i oresgyn y dieithrwch dwfn sy’n lliwio’r presennol; mae stwff bywyd yma, ond rhywle jyst allan o’n golwg. Nid yw hi’n artist y bydd ei gwaith yn dweud wrthoch sut i feddwl nac ymddwyn. Ond fe wneith adeiladu’r math o dawelwch sy’n datgan bod darllen yr arferol o’r newydd ddim yn rôl i’r artist yn unig, ond yn anghenrhaid i bawb.

Previous
Previous

Notes on Farah Allibhai’s Sunday Service